Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Mawrth 2017

Amser: 09.06 - 12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3849


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Janet Finch-Saunders AC

Siân Gwenllian AC

Bethan Jenkins AC

Rhianon Passmore AC

Jenny Rathbone AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Claire Vaughan, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Sarah Morley, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Kate Lorenti, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Joanna Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Councillor Tudor Davies, South Wales Fire and Rescue Authority

Phil Haynes, South Wales Fire and Rescue Authority

Councillor Suzanne Paddison, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Kevin Jones, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Gary Brandrick, North Wales Fire and Rescue Authority

Staff y Pwyllgor:

Christopher Warner (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Osian Bowyer (Ymchwilydd)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2 Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:

 

</AI1>

<AI2>

2       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 5

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

·         Sarah Morley, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

·         Kate Lorenti, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

·         Joanna Davies, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

 

2.2 Cytunodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu:

·         nodyn ar nifer y cyflogeion y telir eu tanysgrifiadau undeb drwy eu didynnu o’u cyflogau (‘didynnu drwy’r gyflogres’), ac ar y costau gweinyddol sydd ynghlwm;

·         nodyn i egluro’r ffactorau y byddent yn disgwyl iddynt gael eu hystyried wrth bennu cost datgymhwyso’r trothwy pleidleisio o 40% i’r gwasanaeth iechyd.

</AI2>

<AI3>

3       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

·         Phil Haynes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

·         Y Cynghorydd Suzanne Paddison, Aelod o’r Awdurdod Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

·         Kevin Jones, Arweinydd Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Adnoddau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

·         Gary Brandrick, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

 

3.2 Cytunodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddarparu nodyn o’i Adran Gyllid ar y costau sydd ynghlwm wrth ddidynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau (‘didynnu drwy’r gyflogres’).

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

</AI4>

<AI5>

4.1   Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

</AI5>

<AI6>

4.2   Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ymwneud â’r Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

</AI6>

<AI7>

4.3   Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch ei amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.

</AI7>

<AI8>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI8>

<AI9>

6       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3. 

</AI9>

<AI10>

6.1   Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - Ymatebion i’r ymgynghoriad

</AI10>

<AI11>

7       Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - trafod yr amserlen

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

</AI11>

<AI12>

8       Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>